Text Box: Dai Lloyd AC
 Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
 Tŷ Hywel
 Bae Caerdydd
 CF99 1NA 
 
  12 Medi 2016

Annwyl Dai

 

Deiseb P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

 

Ystyriodd Pwyllgor Deisebau y Pedwerydd Cynulliad y ddeiseb a ganlyn am y tro cyntaf ar 8 Mawrth 2016:

 

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno sgrinio rheolaidd ar gyfer diabetes math 1 mewn plant a phobl ifanc.

Ym mis Ionawr eleni, yn drychinebus collom ein hannwyl ŵyr 13 oed, Peter Baldwin, a hynny oherwydd diabetes math 1 oedd heb ei ganfod nes ei bod yn rhy hwyr i'w achub. Roedd Peter yn ddisgybl oedd yn annwyl iawn ac yn uchel ei barch gan bawb yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Mae pawb yn ei golli yno, ond mae'r boen i'w deulu yn aruthrol.

Yn ddiweddar, cyflwynwyd gwobr Pride of Britain i'n merch Beth am ei hymdrechion yn codi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer y clefyd ofnadwy hwn, ond gyda'ch cymorth chi a chymorth eich ffrindiau a'ch teulu, gallwn ni wneud gwahaniaeth go iawn

A fyddech cystal â threulio ychydig funudau yn arwyddo'n deiseb i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen sgrinio a chodi ymwybyddiaeth o'r angen i archwilio unrhyw un sy'n dod at weithiwr gofal iechyd proffesiynol â symptomau anesboniadwy tebyg i ffliw neu deimlad o salwch cyffredinol i weld a ydynt yn dioddef o ddiabetes math 1. Yr unig beth sydd ei angen mewn prawf o'r fath yw pigiad i'r bys neu sampl wrin ac mae'n cymryd llai o amser nag ydych chi wedi'i dreulio yn darllen y paragraff hwn; mae hefyd yn costio ychydig geiniogau. Ein bwriad yw gwneud y prawf hwn yr un mor arferol mewn meddygfeydd teulu a chlinigau â phrofion tymheredd a phwysau gwaed.

Drwy lofnodi'r ddeiseb hon, gallech helpu i achub bywydau ac atal rhagor o golled erchyll mewn teuluoedd.

Gwybodaeth ychwanegol:

Y safon ddelfrydol fyddai sgrinio pob person ifanc er mwyn canfod y cyflwr llechwraidd hwn yn gynnar. Mae sawl rhan o'r byd yn gweld manteision sgrinio o'r fath ac yn ei gyflwyno – y diweddaraf yw Gogledd Carolina yn UDA. Mae linc isod i benderfyniad Gogledd Carolina.

http://insulinnation.com/living/reegans-rule-passes-north-carolina/ [Yn agor mewn ffenestr porwr newydd]

Mae Senedd yr Alban yn arwain y ffordd yn y DU ac eisoes wedi ymrwymo i drafod y mater, ac mae'n ymddangos yn debygol iawn y bydd yn cychwyn sgrinio. Rydym eisiau hyn ar gyfer ein plant yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau sgrinio cyn gynted â phosibl.

LLOFNODWCH Y DDEISEB A'I RHANNU Â CHYNIFER O BOBL Â PHOSIBL

(a chofiwch longyfarch eich hun – mae'n bosibl eich bod wedi achub bywyd plentyn)

Mae deiseb ar Change.org yn casglu llofnodion ar hyn o bryd ar gyfer y newid hwn ar draws y DU:

https://www.change.org/p/craig-williams-mp-screen-children-for-type-1-diabetes [Yn agor mewn ffenestr porwr newydd]

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Anthony Cook, ar ôl casglu 2,570 o lofnodion. Casglodd deiseb gysylltiedig i Lywodraeth y DU 3,670 o lofnodion.

 

Yn y cyfarfod ar 8 Mawrth, cytunodd yr Aelodau i ofyn i'r Pwyllgor Iechyd newydd a fyddai'n ystyried cynnwys y mater hwn yn ei flaenraglen waith ar gyfer y Pumed Cynulliad. Fel y Cadeirydd newydd, rwyf bellach yn bwrw ymlaen â'r cais hwn fel y cytunwyd gan y Pwyllgor blaenorol.

 

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech anfon eich ymateb at y Tîm Clercio yn SeneddDeisebau@cynulliad.cymru 

 

Yn gywir

 

 

Mike Hedges AC

Cadeirydd